Aelodau Môn yn hybu iechyd calon
Dyma lun criw o aelodau canghennau Ynys Môn yn mwynhau cerdded rhan hyfryd o Lwybr Arfordir Môn sydd yn ymestyn o Ynys Lawd i Drearddur. Nôd Margaret Roberts, y Llywydd Rhanbarth, a’r aelodau yw cerdded gwahanol ran o’r llwybr bob mis, gan obeithio cwblhau’r Llwybr Arfordir cyfan yn ystod ei chyfnod hi fel llywydd. Fel y gwelwch, y tro hwn, cawsom gwmni Begw a Nanw, sef wyresau un o’r aelodau, a Martha y Jack Russell.
Mae’r weithgaredd o gerdded yn cyd-fynd ag ymgyrch y Llywydd Cenedlaethol i hybu iechyd Calon.

Dyma lun criw o aelodau canghennau Ynys Môn yn mwynhau cerdded rhan hyfryd o Lwybr Arfordir Môn sydd yn ymestyn o Ynys Lawd i Drearddur