Cangen Merched y Wawr Deudraeth
Croeso i gangen Merched y Wawr Deudraeth. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein cangen ni. Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar Gwenda Paul

Hoffech chi ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Hoffech chi ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Mis y Crwydro

Mis y crwydro yw’r mis yma wedi bod! Ar 16eg Mehefin trefnodd Cangen Deudraeth a Changen Porthmadog i ddathlu’r Aur drwy ddull unigryw iawn sef cysylltu dwy Ranbarth, sef Meirionnydd a Dwyfor, mewn Cadwyn ar hyd y Cob. Diwrnod braf a llawen gyda 5 Cangen arall a disgyblion o ‘r ysgolion lleol yn cwrdd ar ganol y Cob a chydgerdded i’r Ganolfan ar yr harbwr.

Yna ar 19eg bu rhai o’r aelodau yn y Parc i weld yr arddangosfa a’r paneli arbennig sydd wedi eu paratoi gan bob Rhanbarth i ddathlu sefydlu y Mudiad yn 1967.
I orffen y crwydro cynhaliwyd y daith flynyddol ac eleni Pontio ym Mangor a Phlas Newydd oedd y ddwy gyrchfan ac wrth gwrs pryd o fwyd i ddiweddu diwrnod braf iawn a hynny yn y Garddfon yn Y Felinheli. Yn Pontio croesawyd ni gan Elen ap Robert, Y Cyfarwyddwr Artistig, a Shari Llewelyn ac yna arweiniwyd ni o amgylch yr adeilad hardd yma . Gwelsom Theatr Bryn Terfel a chael eglurhâd o’i hyblygrwydd ar gyfer pob math o weithgaredd a chynyrchiadau. Yna yn y Sinema cafwyd cyflwyniad gan Emyr Glyn Williams, Cydlynydd y Sinema, a gwelwyd clipiau o’r ffilmiau sydd i’w dangos yn fuan. Rhaid wedyn, wrth gwrs, oedd cael paned a chacen yn y Gegin cyn dychwelyd at y bws ar gyfer yr ymweliad â Phlas Newydd. Yma caed cyfle i fynd o amgylch y Tŷ, y gerddi a’r siop ac unwaith yn rhagor paned ac ati yn y caffi.
Mwynhawyd y gwmnΪaeth yn y Garddfon ar ôl diwrnod prysur a diddorol cyn cychwyn yn ôl am adref. Ymunodd Cangen Llan Ffestiniog gyda ni am yr eilwaith ac mae yn braf cael cwmniaeth ar y teithiau yma ac mae’n rhaid diolch unwaith yn rhagor am nawdd gan Gronfa Arian i Bawb. Mae’r gronfa yma yn rhoi y cyfle inni gael mwynhau teithiau o amgylch ein hatyniadau a chael profiadau amrywiol. Y flwyddyn yma y dewis oedd ymweliad â Pontio sef Adeilad newydd hardd a Chartref a Gerddi hanesyddol ac yn sicr bydd sawl un yn ail ymweld â Pontio i fwynhau yr arlwy sydd ar gael yno.

Rhai o’r aelodau yn mwynhau yn y Garddfon

Rhai o’r aelodau yn mwynhau yn y Garddfon

Rhai o’r aelodau yn mwynhau yn y Garddfon

Rhai o’r aelodau yn mwynhau yn y Garddfon

Blaenorol Gweld pob cofnod Nesaf
  • Archif:

    • 2018

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mehefin

    • 2017

      • Blwyddyn Cyfan

      • Ionawr

      • Mawrth

      • Ebrill

      • Mai

      • Gorffennaf

      • Hydref

    • 2016

      • Blwyddyn Cyfan

      • Medi

      • Hydref

      • Tachwedd

      • Rhagfyr

  • Cangen Deudraeth
    Rhanbarth Meirionnydd
    Man Cyfarfod: Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth
    7.00 Nos Lun olaf y mis

    2018
    Medi 24ain - 'Byw a Bod yn Bwydo' gan Margaret Brychyni
    Hydref 29ain - 'Cadw Trefn a Chadw'n Ddiogel' gyda PCSO Paula Stewart
    Tachwedd 26ain - Noson yng nghwmni yr Amryddawn Alun Ffred
    Rhagfyr 10fed - Cinio Nadolig yng Ngwesty'r Heliwr (12.00-12.30)

    2019
    Ionawr 28ain - 'Mentro' gyda Mirain Gwyn
    Chwefror 25ain - Noson y Dysgwyr, cyfle i chwarae gêm 'Chwilen' a sgwrsio
    Mawrth 25ain - 'Mwynhau Talentau Ieuenctid y Fro' gyda Band Pres John Glyn Jones
    Ebrill 29ain - Eirlys Jones Roberts yn 'Dysgu Cerdd-Dramor'
    Mai 20fed - 'Hwyl ar Ganu gydag Ysgolion y Fro'
    Mehefin 3ydd - Taith yr Haf i'r Gerddi Bodnant

    Hoffech chi ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Lona Jones
    36 Maes Gerddi, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9LE
    01766 515 746
    Officer Photo
    Llywydd:
    Mona Hughes
    Hafren, Ffordd Pencefn, Dolgellau, Gwynedd LL40 2ER
    01341 423 200
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Eirian Roberts
    Rhydyrefail, Y Parc, Y Bala, Gwynedd LL23 7YP
    01678 540 310
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Bethan Edwards
    Perthi, 5 Cae Gwalia, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd LL23 7NA
    01678 540 601
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Freda Jones Williams
    Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn Powys
    01678 521 883