
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Cangen Penrhosgarnedd
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor nos Fercher Medi 16 gyda phawb yn ymuno o glydwch eu cadeiriau esmwyth. Ie, dim dewis ond ei gynnal ar Zoom am y misoedd nesaf beth bynnag. Croesawyd pawb gan ein Llywydd newydd, Glenda Jones, a dywedodd mai noson o holi a stilio oedd yr arlwy, sef cyfle i ddod i adnabod rhai o aelodau’r pwyllgor yn well. Nerys ein hysgrifenyddes oedd yr holwr.
Yn cymryd rhan oedd Marian, Alwen a Carolyn ac fe ddysgon ni sawl peth diddorol am ein cyd-aelodau. Marian wedi cael ei magu ar fferm yn Abergwili ger Caerfyrddin; Alwen yn “Gofi Dre o fath”, a Carolyn hefyd wedi ei magu ar fferm, rhwng Bryngwran a Rhosneigr. Roedd cwestiynau Nerys yn mynd ymhellach na ble cawsoch eich magu, i ba ysgol aethoch chi… Cawsom wybod am bethau sy’n gwylltio pobl, sut oedd eu perthynas â’u rhieni, pwll o beth fydden nhw’n fodlon neidio i mewn iddo. Cwestiynau gwahanol a threiddgar.
Diolchodd Glenda yn gynnes i bawb. Y bwriad yw cyfuno nosweithiau fel hyn a gwahodd siaradwyr atom (yn rhithiol) dros y misoedd nesaf. Nid yw cwrdd ar Zoom yn gwneud iawn am y sgwrsio naturiol, y paneidiau na’r tawelwch clywed-pin-yn-syrthio pan mae rhywun gwirioneddol wefreiddiol yn siarad â ni. Ond mae’n ffordd i gadw cysylltiad a diolch ei fod ar gael.
Mae’r mudiad yn ganolog wedi bod yn benderfynol o gadw i fynd drwy’r cyfnod clo a rhaid canmol eu brwdfrydedd yn Aberystwyth. Os ydych ar y cyfryngau cymdeithasol, prin fod diwrnod yn mynd heibio heb lun neu atgof gan Ferched y Wawr ar Facebook ac yn goron ar y cyfan cyhoeddwyd llyfr coginio o ryseitiau a gyfrannwyd yn ystod y cyfnod clo dan yr enw “Curo’r Corona’n Coginio” – dwi newydd gael copi, llyfr addawol iawn!
Yr ysgrifennydd eleni yw Nerys Roberts (352796). Os ydych yn gyn aelod sydd am ddod yn ôl neu os ydych am ymuno o’r newydd, yna cysylltwch â Nerys yn ddiymdroi.
Rhanbarth Arfon
Man Cyfarfod: "Cae Garnedd", Ffordd Penrhos
7.30 drydedd Nos Fercher y mis
Rhaglen 2019
Medi 18 - Noson yng nghwmni Marian Roberts - enillydd Rhuban Glas
Hydref 16 - Brethyn Cartref. Dod i adnabod ein gilydd
Tachwedd 20 - Noson yng nghwmni'r awdures Alys Conran
Rhagfyr 18 - Cinio Nadolig mewn gwesty lleol
2020
Ionawr 29 - Ymweld a changen Bangor
Chwefror 19 - Bethan Edwards - gwirfoddoli gyda ffoaduriaid yng Nghyprus
Mawrth 18 - Dathlu Gŵyl Ddewi - Carrie Rimes - gwneud caws a dysgu Cymraeg
Ebrill 22 - Wil Aaron - Martha Hughes Cannon - Seneddwraig gyntaf UDA
Mai 20 - Bob Morris - hanesydd o fri
Mehefin 17 - Trip Hâf i'r Ardd Fadarch, Nantmor a swper i ddilyn
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




