Apêl i Greu Casgliad o Gerddoriaeth i Henoed Cymru

Mae Merched y Wawr yn cyd-weithio gyda Prifysgol Bangor ar hyn o bryd i greu cryno ddisg o ganeuon arbennig ar gyfer cartrefi gofal ar draws Cymru. Mae’r prosiect yn cael ei gynnal gan Dr Catrin Hedd a Alistair O’Mahoney o Brifysgol Bangor a dyma lun ohonynt ar Ddiwrnod Miwsig Cymru 2019 gyda Tegwen a Meirwen ynghyd a Linda Griffiths a Julie Thomas yng nghartref gofal Hafan y Waun.

Gellir darllen erthygl lawn BBC Cymru Fyw am y prosiect ac am y diwrnod yma

 

Tegwen a Meirwen yn Hafan y Waun gyda Dr Catrin Hedd a Alistair O’Mahoney o Brifysgol Bangor a Linda Griffiths

 

 

 

 

Blaenorol Gweld pob cofnod Nesaf