Cwrs Crefft y Gogledd 2020

Cynhaliwyd Cwrs Crefft y Gogledd 2020 ar Ionawr 18 yn Glasdir, Llanrwst. Gyda oddeutu 50 o aelodau roedd yn ddiwrnod prysur llawn hwyl. Roedd dau math o gwrs yn cael ei gynnal gyda dau gwrs o fewn rheiny:

Cyrsiau Gwaith Peiriant:-

  • Eirlys Savage a Bethan Pendleton; Creu cefndir a gwneud llun o flodau
  • Angharad Rhys; Creu Bag Bach gan ddefnyddio Clytwaith a Cwiltio

Cyrsiau Gwaith Llaw:-

  • Eleri Jones; Ffeltio Gwlyb creu blodyn/blodau
  • Ffion Meleri Gwyn; Creu blodyn allan o bapur a ffabric

Dyma ychydig o luniau o’r diwrnod:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Blaenorol Gweld pob cofnod Nesaf