Hafan > Polisi Preifatrwydd


Polisi Preifatrwydd


Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well a rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis YouTube i osod fideos ar ei thudalennau a chwcis Google Anaytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan.

Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ni ei gwneud yn haws i ddefnyddio’r wefan a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y mae Merched y Wawr yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, porwr a system weithredu. Ni chaiff y data’i ddefnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis ar ein gwefan:

Ni chaiff y data’i ddefnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis ar ein gwefan:

GoogleAnalytics – Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddi-enw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â’r wefan o’r blaen a’r tudalennau y maen nhw’n ymweld â nhw.

Cookie Control – Mae’r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn cwcis ar ein gwefan.

YouTube – Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i ddangos fideos YouTube ar ein gwefan.

Mae modd rheoli rywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu mwy am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org.

Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu gennym?

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys. Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis? a chod JavaScript i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo a’i storio ar serfwyr Google yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgaredd y wefan i weithredwyr y wefan. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud hynny’n gyfreithiol, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a nodwyd uchod.Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google a Thelerau Gwasanaeth Llawn Google am yr wybodaeth fanwl.Mae’r wefan hon, o bryd i’w gilydd, yn darparu dolenni at ffurflenni SurveyMonkey ar gyfer casglu data. Caiff y data hwn ei brosesu yn yr Unol Daleithiau ac mae’r modd y caiff ei drin yn bodloni darpariaethau’r Ddeddf Diogelu Data.Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth oddi wrth y rheini sy’n ymweld â’r wefan hon: adborth a manylion tanysgrifio trwy e-bost.

Adborth

Rydym yn croesawu eich sylwadau. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu ag adrannau eraill o’r llywodraeth i gael gafael ar yr wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg. Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ddelio â’ch ymholiad, oni bai y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni ateb eich ymholiad, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.

Cofrestru

Nid oes rhaid ichi gofrestru er mwyn defnyddio gwefan Merched y Wawr ond mae’n rhaid ichi gofrestru os ydych chi am gymryd rhan mewn trafodaethau ac os ydych chi’n awyddus i dderbyn diweddariadau ar ffurf e-bost a chyfrannu at fforymau.

Os ydych am gofrestru, mae darparu’r wybodaeth ganlynol yn orfodol. Mae’n rhaid i ni gael enw defnyddiwr (nid oes rhaid ichi ddefnyddio eich enw iawn ond ni ddylech geisio ffugio bod yn rhywun arall); cyfrinair a chyfeiriad e-bost.Caiff yr wybodaeth hon ei storio’n ddiogel ar ein cronfeydd data. Tan eich bod yn dewis dileu eich cyfrif, caiff eich manylion eu cadw’n ddiogel fel nad oes rhaid ichi ailgofrestru os ydych chi’n dychwelyd i’r safle hwn.

Gallwch newid eich dewisiadau o ran cofrestru, eich cyfeiriad e-bost a’ch manylion mewngofnodi trwy fynd i’r wefan unrhyw amser. Os ydych chi’n dymuno diwygio eich proffil personol, cliciwch ar y ddolen ‘Tanysgrifio’ sydd ar frig y dudalen, mewngofnodwch i’ch cyfrif a diwygiwch yr opsiynau sydd ar gael i chi. Os nad oes gennych chi ddiddordeb defnyddio’r gwasanaethau sydd ar safle Merched y Wawr ddim rhagor, gallwch ddileu eich cyfrif trwy fynd i dudalen eich proffil personol.

Y Ddeddf Diogelu Data

O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio’r technolegau a’r feddalwedd amgryptio ddiweddaraf i ddiogelu eich data, ac yn cadw at safonau diogelwch llym er mwyn sicrhau na cheir mynediad ato heb awdurdod. Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti nac i adrannau eraill o’r llywodraeth.

Hawl i weld eich gwybodaeth a chysylltu â ni

Os hoffech weld cofnod o unrhyw ohebiaeth yr ydych wedi’i hanfon atom, neu os bydd gennych ymholiad neu gwyn am y polisi preifatrwydd hwn neu am y wefan hon, cysylltwch â’r gwefeistr trwy anfon e-bost i’r cyfeiriad a ganlyn: swyddfa@merchedywawr.co.uk

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Os yw’r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Byddwn yn adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau y gwyddoch bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.