Adroddiad Camu Mlan Hâf 2018

Bu’r grŵp o gerddwyr yn cerdded yn gyson eto drwy dymor yr haf gan ymweld a cherdded yn yr Hendy, Pontlliw, Penclacwydd, PorthTywyn, Pennard a Rhosili i gyd o fewn hanner awr oddi wrthym.
Mae’r nifer yn tyfu hefyd a bellach mae gennym 35 ar y rhestr ac mae rhyw 10 i 15 yn cerdded bob tro.
Cawsom dywydd gwlyb wrth ymweld â Pontlliw a Pharc Singleton ond roedd yn grasboeth ym Mhorth Tywyn ac ar draeth Rhosili. Buom ar un daith newydd i ni i fyny yn ardal y Twrch Trwyth yn Garnant gan gerdded oddiyno i Frynaman a chael ein paned yn y ganolfan gymunedol yno. Mae gerddi Clun yn werth eu gweld ym mis Mai a’r azaleas a’r rhododendron i gyd yn eu blodau.
I orffen y tymor aethom i ganolfan Myddfai eto ar ddiwrnod braf o haf a chael anerchiad yn yr Eglwys am hanes y fro, taith fer ac yna cinio gyda’n gilydd yn y Ganolfan gymunedol hyfryd yno.
Rydym yn dal i gasglu £1 gan bob aelod sy’n cerdded yn wythnosol ac yn ddiweddar cafodd Delyth gyfle i gyfrannu at elusen Syndrom Downs a Gwen yn rhoi canpunt i Ganolfan Maggie yn Abertawe.
Dyddiad | Man Cyfarfod | Amser | Taith | Paned | Nodiadau |
Medi 11 | Cronfa ddwr Felindre | 10.00 am | I fyny ar bwys y gronfa | Caffi Cronfa ddŵr | Trefnu rhaglen |
Medi 18 | Maes parcio Sandpiper, Llanelli | 10.00 am | O gwmpas y llun ym Mharc Sandi | Y Sandpiper | |
Medi 25 | Ar bwys safle “Funsters”, yn yr Hendy | 10.00 am | Yn yr Hendy | Caffi yn yr Hen Lyfrgell yn yr Hendy | |
Hydref 2 |
Maes parcio Verdi yn Mwmbwls |
10.00 am | O Verdi draw i West Cross | Verdi | |
Hydref 9 |
Maes parcio Parc Penllergaer |
10.00 am | Gerddi Penllergaer | Caffi’r Gerddi | |
Hydref 16 |
Encilfa ar fordd Felindre i drefnu ceir |
9.30 am | Parc Margam ac ymweld â’r arddangosfa yno | Caffi yn y Parc | |
Hydref 23 |
Stesion Bynea/ Llangennech Pontarddulais |
I’w gadarnhau | Tren i Lanwrtyd | ? | |
Hydref 30 |
HANNER TYMOR |
||||
Tach 6 |
Caffi Pwll i drednu ceir |
9.30 am | Cydweli yn dilyn yr afon Gwendraeth | Parc yn y Bocs? | |
Tach 13 |
Ck’s Penclawdd |
9.30 am | Croffti i Lanmorlais | Rake and Riddle | |
Tach 20 |
Ar bwys y Clwb Cychod Casllwchwr |
10.00 am | Casllwchwr | ? | |
Tach 27 |
Caffi Pwll |
10.00 am | Pwll i Ddoc y Gogledd | Caffi Pwll | |
Rhagfyr 4 |
Bird in Hand i drefnu ceir |
9.30 am | Parc Dinefwr, Llandeilo | Gwyl Nadolig Llandeilo? | |
Rhagfyr 11 |
CINIO NADOLIG lleoliad i drefnu |
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




