Grwp Trafod Llyfrau Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
Grwp Trafod Llyfrau Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
Perl gan Bet Jones oedd y nofel dan sylw y mis hwn. Y farn gyffredinol oedd ein bod wedi mwynhau.
Byddwn yn cwrdd nesa ar ddydd Gwener 15 Ionawr am 10.00 i drafod nofel Andrew Green ‘Rhwng y Silffoedd’ (Y Lolfa £8.99 / e-lyfr £7.99) ac mae Andrew wedi derbyn y gwahoddiad i ymuno â ni am 10.30 y bore hwnnw i ni gael ei holi am y llyfr.
Yna byddwn yn cwrdd ar 26 Chwefror i drafod hunangofiant Huw Jones ‘Dwi Ishe bod yn …’ (Y Lolfa £12.99 E-lyfr £9.99): dyma’r ‘blyrb’ :
Taith drwy fywyd Huw Jones, gyda digwyddiadau hanesyddol, gwleidyddol a diwylliannol o bwys yn gefndir i’r cwbl. Ceir hanes ei fagwraeth yng Nghaerdydd a’i ddyddiau yn Rhydychen. Mae’n hel atgofion am ei yrfa gerddorol ac am sefydlu Sain, ac mae’n croniclo’r cyfnodau o weithio ym myd teledu ac yn arbennig ei gyfnod yn Brif Weithredwr S4C.
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




