Hafan > Y Mudiad > Ein Cân Genedlaethol


Ein Cân Genedlaethol


O eiriau mwyn fy iaith, 

Anwylaf chwi, 

A’u plethu wnaf yn dynn 

O gylch fy nghalon i; 

Ni chaiff na gormes hir na’r un sarhâd 

Fyth ddwyn oddi arnom ni ein hiaith a’n gwlad 

Byrdwn: 

Ein hiaith a’n gwlad, fe’u caraf fwy a mwy; 

Fe bery popeth hardd tra paront hwy. 

O enwau gwyn fy mro, 

Ar dy a nant, 

Fe ganant yn fy ngho, 

Nes dod yn eiddo’r plant; 

Ni chaiff yr estron hy na thwyll na brad 

Fyth ddwyn oddi arnom ni ein hiaith a’n gwlad. 

Byrdwn 

O hiraeth hen y tir 

Sydd dan fy nhraed, 

Ti gadwyd gan fy hil 

Trwy ddirfawr chwys a gwaed; 

Fe gadwyf hyn am byth i mi’n goffâd 

Mai’n heiddo annwyl ni yw’n hiaith a’n gwlad. 

Byrdwn: 

Geiriau: D. Jacob Davies 

Dewiswyd y gân uchod fel canlyniad i gystadleuaeth ym 1969. Trwy bleidlais yn y Cyngor Cenedlaethol fe ddewisiwyd tôn: Pencerdd Silyn (Elfed Owen). 

 

Cliciwch Yma i Lawrlwytho Cerddoriaeth Cân Genedlaethol Merched y Wawr