Hafan > Y Mudiad > Sefydlu Cangen neu Glwb


Sefydlu Cangen neu Glwb


Clybiau Gwawr - Bod yn aelod o Glwb Gwawr (pdf)

Os nad ydych yn medru lawrlwytho – mae croeso i chwi gysylltu gyda’r swyddfa i gael copi caled – swyddfa@merchedywawr.com neu 01970 611 661 

Os am ddechrau clwb, cysylltwch gyda’r Swyddog Hyrwyddo yn eich ardal chi (ewch i dudalen eich rhanbarth ar gyfer manylion y swyddog) neu ffoniwch Swyddfa Merched y Wawr ar 01970 611661

Beth sydd angen i sefydlu clwb?


1. Nifer i Ddechrau Clwb

Mae 8 yn ddigon i ddechrau clwb

2. Oedran

Ar gyfer menywod ifainc, ond mae oedrannau yn amrywio o glwb i glwb!

3. Gwneud Rhestr o Bawb Sydd yn y Cyfarfod Cyntaf

Enw, Cyfeiriad, Rhif ffôn ac e-bost pawb sy’n bresennol

Yr un peth i ddarpar aelodau

4. Lle i Gwrdd

Fel arfer unwaith y mis mewn tafarn neu glwb

Dylid drafod opsiynau yn y cyfarfod cyntaf a chytuno ar fan cwrdd

5. Dewis Swyddogion

Cysylltydd : Dylid ethol Cysylltydd er mwyn derbyn gohebiaeth a bod yn gyswllt

Trysorydd : Gweler canllawiau ar waelod tudalen 2 *

Is-drysorydd : yn gyfrifol am gasglu copïau o’r Wawr o rhyw siop leol pob 3 mis

6. Dewis Enw i'r Clwb

Gall fod yn seiliedig ar enw’r ardal neu beidio

7. Trefnu Rhaglen

Un neu ddwy yn gyfrifol am bob mis, yn lle bod y Cysylltydd yn gyfrifol am y cyfan, gan nodi enw(au), rhif(au) ffôn a cyfeiriad e-bost y trefnwyr.

Mae rhyddid i bob clwb drefnu eu rhaglen, ond cynnal popeth drwy’r Gymraeg

Yn ddelfrydol, dylid llunio rhaglen newydd cyn yr hâf er mwyn cychwyn gyda’r rhaglen newydd dechrau Medi.

8. Tâl Aelodaeth

£16 y flwyddyn (cedwir £3 o bob £16 gan y clwb) i’w gasglu gan y Trysoryddes ym mis Medi. Cedwir £3.00 gan y clwb.

Ar ôl danfon yr Arian Aelodaeth at y Rhanbarth, bydd y Clwb newydd yn derbyn £100.

Bydd pob aelod yn debyn rhifyn o gylchgrawn ‘Y Wawr’ bedair gwaith y flwyddyn am ddim.

[Bydd y Trysorydd Rhanbarth yn gofyn i Drysorydd y Clwb am y tâl aelodaeth, fel arfer erbyn diwedd y flwyddyn neu dechrau’r flwyddyn newydd. Mae’r dyddiad yn amrywio o Ranbarth i Ranbarth ond caiff Trysorydd y clwb wybod mewn da bryd]

Gwybodaeth Ychwannegol


1. Cyfrannu at Achosion Da

Gellir cyfrannu at achos da sy’n cyd-fynd â’n cyfansoddiad.

Ar y cyfan, cyfrannu at Achosion Menywod a / neu’r Iaith Gymraeg. Er enghraifft, Mudiad Ysgolion Meithrin, Papurau Bro, Eisteddfodau sy’n elusennau, afiechydon menywod ayyb. Am ragor o fanylion ffoniwch y Swyddfa ar 01970 611661.

2. Hysbysebu'r Clwb

Mae’n bwysig bod y clwb yn cael ei hysbysebu yn y wasg lleol, y Wawr, radio a.y.y.b. a thrwy dynnu lluniau o wahanol weithgareddau

3. Ethol Swyddogion Newydd yn Flynyddol

Dylid gwneud hyn cyn yr hâf, yn ddelfrydol canol mis Mai

Dylid anfon yr enwau yn brydlon i’r Ganolfan Genedlaethol (derbynnir ffurflen bwrpasol)

4. Cyd-weithio Gyda Changhennau Merched y Wawr Lleol

Cyd-weithio gyda’r gangen / canghennau lleol wrth sefydlu’r Clwb

Gellir rhoi gwahoddiad i gangen o Ferched y Wawr ymuno â’r clwb unwaith y flwyddyn.

5. Gweithgareddau Cenedlaethol

Bydd gwahoddiad i ymuno mewn unrhyw weithgareddau / pwyllgorau / cystadlaethau mae Merched y Wawr yn eu cynnig yn Rhanbarthol neu’n Genedlaethol.

6. Canllawiau i'r Trysorydd

Agor Cyfrif Banc : Rhif Elusen y Mudiad yw : 506789 – i’w gynnwys ar y Llyfr Sieciau a phob gohebiaeth. Bydd angen dau enw cyswllt i lofnodi’r sieciau. Swyddog Cyllid yn Swyddfa Merched y Wawr yw Miriam Garratt : (01970 611661)

Llyfr Cyfrifon Merched y Wawr (Llyfr Glas): Wrth ddechrau’r clwb newydd byddwch yn derbyn “Llyfr Glas”. Mae’n bwysig iawn defnyddio hwn am eich holl gyfrifon.

Y Trysorydd i gasglu Tâl Aelodaeth gan yr aelodau. Mae’n bwysig bod y tâl aelodaeth yn cael ei anfon at y Trysorydd Rhanbarth erbyn y dyddiad y gofynnir amdano, fel afer diwedd y flwyddyn neu dechrau Ionawr. Bydd y clwb yn derbyn ffurflen bwrpasol at y gwaith gan y Trysorydd Rhanbarth. Ar ôl derbyn y ffurflen berthnasol gan y Trysorydd Rhanbarth, bydd Trysorydd y clwb yn anfon manylion am holl gyfrifon y clwb (mantolen) at y Trysorydd Rhanbarth erbyn diwedd Medi. Mae’n bwysig anfon y tâl aelodaeth a’r fantolen yn brydlon.

7. Cau Clwb

OS MAE CLWB YN CAU YNA RHAID ANFON DATGANIAD TERFYNOL Y BANC I’R SWYDDFA, DYCHWELYD Y £100 A GAETHOCH AR OL DECHRAU’R CLWB: £50 I’R CYFRIF CENEDLAETHOL A £50 I’R PWYLLGOR RHANBARTH, A THROSGLWYDDO UNRHYW ARIAN SY’N WEDDILL I’R PWYLLGOR RHANBARTH LLEOL.

Gwybodaeth Ychwannegol am Gyfrannu at Elusennau


Mae’r Ddeddf yngln ag Elusennau wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn ymwneud ag un elusen yn cyfrannu neu’n rhoi rhodd i elusennau eraill. Mae yn bosibl cyfrannu at elusen arall os yw ei amcanion yr un rhai ag amcanion Merched y Wawr h.y.

(a) yn hyrwyddo addysg a’r iaith Gymraeg e.e. eisteddfod, ysgolion meithrin, papurau bro, cyfieithu a.y.y.b.

(b) yn hyrwyddo buddiannau merched yng Nghymru e.e. iechyd merched.

Mae rhestr ar gwaelod y dudalen o’r elusennau y gellir cyfrannu tuag atynt. Mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddfa os nad ydych yn siwr.

Ond os ydych am gyfrannu at Elusen nad yw â’r un amcanion â Merched y Wawr mae’n rhaid i chwi ddilyn y canllawiau isod:-

  • gellir gwneud casgliad mewn cyfarfod a rhoi yr arian hwnnw i aelod o’r Elusen neilltuol ar y noson honno. Dylid nodi mai arian aelodau y gangen oedd y cyfraniad.
  •  bod aelodau y gangen yn cynnal digwyddiad i godi arian i’r elusen. Dylid eto, fel yr uchod, nodi mai aelodau y gangen sydd yn codi’r arian.

e.e. Cyfranwyd gan aelodau Merched y Wawr Cangen   

Casglwyd yr arian drwy drefniant aelodau Merched y Wawr Cangen   

NODER – ni ddylai yr arian hwn fynd drwy Gyfrif Banc y Gangen.

Fe welwch felly fod pob hawl a chefnogaeth i chi helpu unrhyw elusen – dim ond i chi gadw at y canllawiau hyn. Diolch am eich cefnogaeth i lu o elusennau ar hyd y blynyddoedd. Cofiwch fod modd casglu mewn ffordd ymarferol e.e. bagiau.

  • Cymorth i Ferched
  • Cancr y Fron
  • Cancr yr Wygelloedd
  • Cancr Ceg y Groth
  • Paratoi taflenni Cymraeg parthed materion iechyd
  • Ysgolion Meithrin
  • Eisteddfodau
  • Papurau Bro
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Cymdeithasau dysgwyr sy’n elusennau cofrestredig
  • Helpu dysgwyr yn ariannol e.e. ysgoloriaeth i ddysgwyr
  • Elusennau cofrestredig yn ymwneud â mamau ifanc a merched beichiog yng Nghymru