Hafan > Y Mudiad


Y Mudiad


Pwy yw Merched y Wawr?

  • Merched o bob oedran.
  • Croeso cynnes i ferched sy’n dysgu Cymraeg.

 

Ble mae’r canghennau a’r clybiau?

  • Mae dros 280 o ganghennau a chlybiau yng Nghymru – mae cangen neu glwb lleol i chi.
  • Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Rhanbarthol neu’r Ganolfan Genedlaethol.

 

Pryd maen nhw’n cyfarfod?

  • Unwaith y mis gan amla.

 

Beth maen nhw’n wneud?

Pob math o bethau! – Coginio, crefftau, ciniawa, teithio, chwaraeon, darlithiau, helpu elusennau, canu, cwisiau – CHI fydd yn penderfynu
 

Pam ddylwn i ymuno?

Dyma gyfle i gymdeithasu a gwneud rhywbeth cadarnhaol trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma gyfle i hyrwyddo Cymreictod yn eich ardal chi a chael hwyl wrth wneud hynny.

Mae Merched y Wawr yn ymgyrchu dros hawliau’r iaith Gymraeg a hawliau merched:

  • cyhoeddi cylchgrawn Y Wawr
  • wedi sefydlu ysgolion meithrin
  • cefnogi yr ymgyrchoedd dros S4C a Deddf Iaith
  • coffáu’r Dywysoges Gwenllian
  • adnewyddu tŷ i’r anabl yn Nant Gwrtheyrn
  • codi arian at gancr y fron
  • cefnogi datblygiad cymunedol yn Lesotho
  • cefnogi gwragedd fferm Cymru
  • tapio casetiau ar gyfer y deillion
  • addysgu am warchod ein hamgylchedd

Mae Merched y Wawr yn fudiad gwladgarol