
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Cangen Dolgellau yn ail gwrdd
Merched y Wawr, Dolgellau
Cyfarfu cangen Dolgellau o Ferched y Wawr b’nawn Mercher, Medi 16eg yn y maes parcio ger pont Llanelltyd! Roedd hi’n dywydd delfrydol i gwrdd yn yr awyr agored, pawb a’i gadair a’i fflasg, ac roedd digonedd o le i gadw pellter cymdeithasol, er bod bron i ddeg ar hugain yno.
Hwn oedd y tro cyntaf i ni ddod at ein gilydd ers mis Mawrth, ac fel y gallwch feddwl, roedd hen sgwrsio! Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr ac wedi cael budd o roi’r byd yn ei le.
Roedd yn gyfle i drosglwyddo’r awenau i’n Llywydd newydd sef Bethan Williams a’n Trysorydd newydd, Llinos Cadwaladr. Cyflwynwyd Cadwyn y Llywydd i Bethan gan Mai Parry Roberts, a diolchodd Bethan iddi am ei gwaith caled dros y ddwy flynedd diwethaf. Diolchwyd hefyd i Rhiannon Gomer ac Elliw Richards am eu gwaith trylwyr hwythau fel Ysgrifennydd a Thrysorydd y gangen. Buom yn trafod y ffordd ymlaen i ni yn ystod y cyfnod ansicr hwn, a phenderfynwyd cyfarfod yn yr awyr agored eto ym mis Hydref os bydd y tywydd yn caniatáu. Wedi hynny, byddwn gobeithio yn cyfarfod yn rhithiol, gan ddefnyddio Zoom.
Braf iawn yw gallu cyhoeddi bod 33 aelod wedi ymaelodi erbyn hyn, ynghyd ag un aelod ategol.
Rhanbarth Meirionnydd
Man Cyfarfod: Ty Siamas,
7.30 Nos Fercher 1af y mis
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




