
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Cangen Penrhosgarnedd – Hydref
Rydym yn dal i fynd o nerth i nerth ar Zoom ac ym mis Hydref fe lwyddon ni i gynnal noson gyda siaradwr gwadd am y tro cyntaf ers y cloi. Yr hanesydd Bob Morris oedd yn gwmni i ni a chawsom ddarlith hynod ddiddorol ganddo gyda chymorth sleidiau. Hanes Madog yn mynd i America oedd y disgwyl a dyna gafwyd – i raddau. Y gwir yw nad oes neb yn gwybod yn iawn a fu i Madog, fab Owain Gwynedd, gyrraedd America ai peidio. Ond flynyddoedd wedyn daeth si fod un o lwythi brodorol America – y Mandaniaid – yn siarad Cymraeg, a hynny o dan ddylanwad y Madog gwreiddiol. Penderfynodd un John Evans, o Waunfawr yn wreiddiol, fynd ar daith i chwilio am y llwyth hwn a phrofi’r stori. Hon oedd yr “antur enbyd” go iawn ac aeth Bob Morris â ni gam wrth gam, dalaith wrth dalaith, ar ôl llwybrau John Evans. Taith a ddangosodd wrhydri a dyfalbarhad arbennig. Mae cofgolofn i John Evans ar dir Antur Waunfawr ynghyd ag arddangosfa am yr hanes yn Nhŷ’r Ysgol, felly dyna ddod â’r hanes o bellteroedd America yn agos iawn at adref. Darlith ddiddorol dros ben, yn llawn manylion ond er hynny yn fyw iawn. Diolchwyd i Bob gan y Llywydd, Glenda Jones.
Ail weithgaredd y mis oedd cymryd rhan yn yr hyn a elwir gan y Mudiad yn Gwis Hwyl. Roedd gennym 3 thîm y tro hwn ond wrth gwrs gyda’r cyfyngiadau, rhaid oedd anghofio am ymgynnull fel Rhanbarth Arfon gyfan a chael pryd da a sgwrs a gwydraid o win neu baned uwchben y Cwis. Bob yn bedair ar Zoom oedd hi eleni. Penderfynodd ein cangen ni y byddai’n fwy o her bwrw iddi dan amodau cwis a dyna wnaed. Dyma un o’r timau wrthi – Nia, Cynthia, Sioned a Marian, yn cael eu gorchwylio gan Glenda a Nerys. Crafu pen, trin a thrafod a gorfod dod i gytundeb ar ateb yn y diwedd. Prynahwn difyr iawn, y cyfan oedd ar goll oedd y salad ham blynyddol ar y diwedd.
Rhanbarth Arfon
Man Cyfarfod: "Cae Garnedd", Ffordd Penrhos
7.30 drydedd Nos Fercher y mis
Rhaglen 2019
Medi 18 - Noson yng nghwmni Marian Roberts - enillydd Rhuban Glas
Hydref 16 - Brethyn Cartref. Dod i adnabod ein gilydd
Tachwedd 20 - Noson yng nghwmni'r awdures Alys Conran
Rhagfyr 18 - Cinio Nadolig mewn gwesty lleol
2020
Ionawr 29 - Ymweld a changen Bangor
Chwefror 19 - Bethan Edwards - gwirfoddoli gyda ffoaduriaid yng Nghyprus
Mawrth 18 - Dathlu Gŵyl Ddewi - Carrie Rimes - gwneud caws a dysgu Cymraeg
Ebrill 22 - Wil Aaron - Martha Hughes Cannon - Seneddwraig gyntaf UDA
Mai 20 - Bob Morris - hanesydd o fri
Mehefin 17 - Trip Hâf i'r Ardd Fadarch, Nantmor a swper i ddilyn
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




