
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Grŵp Trafod Llyfrau Pontarddulais a Gorseinon

Roedd cyfarfod y ym mis Ionawr 2019 yn un arbennig oherwydd ni sydd â’r cyfrifoldeb i gyfrannu erthygl am lyfr(au) ar gyfer Y Wawr rhifyn yr haf eleni. Dewison ni drafod nofel Heiddwen Tomos, Esgyrn (Y Lolfa) £8.99 a chael hwyl arni. Ond bydd yn rhaid aros tan fis Mai i wybod beth oedd ein hymateb yn llawn!
Ar gyfer y tro nesaf, ar ddydd Gwener 15 Mawrth, bydd cyfrol o farddoniaeth yn mynd â’n bryd, sef Cerddi’r Sêr Cyfrol 1 wedi ei golygu gan y cerddor Rhys Meirion. Ynddi, mae nifer o ‘selebs’ yn dewis eu hoff gerdd ac yn egluro pam. Mae’r cerddi yn amrywio o ‘Llyn y Gadair’, T.H. Parry-Williams i ‘Garej Lôn Glan Môr’, gan Steve Eaves, casgliad eclectig hyfryd a ddylai apelio at y grŵp. Efallai y gallwn ninnau nodi ein hoff gerdd ni fel unigolion hefyd ac egluro beth sy’n ein denu ati.
Rhanbarth Gorllewin Morgannwg
Man Cyfarfod: Yr Institiwt Pontarddulais
7.00 Nos Wener olaf y mis
Medi 27 Byd y Newyddiadurwr Tweli Griffiths
Hydref 25 Côr Plant Ysgol Gymraeg Llangennech
Tachwedd 8 Cwis cenedlaethol
Tachwedd 29 “Esgidiau” yng nghwmni Dr Fiona Gannon
Rhagfyr 13 - pnawn - Ymweld â’r cartrefi Preswyl a nyrsio
Hwyr - Canu carolau a’u cefndir ( festri’r Tabernacl)
Ionawr 31 Gweithio gyda’r Samariaid - Ann Morgan
Chwefror 28 Cinio Gŵyl Dewi yn y Plough Rhosmaen , Llandeilo. Gwestai: Beti Wyn James
Mawrth 14 Cwrs crefft y de
Mawrth 27 “ Waffles a chân” gyda Kees Huysmans
Mawrth 28 Cinio’r llywydd yn y de - Gwesty Nantyffin
Ebrill 24 “ Gwir neu gau” gyda syrpreis o banel
Mai 16 Gŵyl Haf ym Machynlleth
Mai 22 “ Hwyl, Sbri a Chloncan” gyda Rhiannon Jenkins
Mehefin 13 Trip i Sain Ffagan a bwyty Dudley
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.





