
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Newyddion Cangen Y Bala
Ym mis Tachwedd cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer ein holl aelodau . Roedd 4 tasg wedi eu gosod -cwbwlhau Limerig ,brawddeg or gair Nadolig , cerdd acrostig ENFYS a cheisio cael hyd ir priod ddulliau /dywediadau o’r cliwiau gweledol
Diolch i Ian Lloyd Hughes am eu beirniadu ac i bawb fu’n cystadlu .Mae’r canlyniadau a’r feirniadaeth yn yr atodiad .Mae croeso i unrhyw Gangen arall gael copi o’r cystadlaethau os dymunant
Cliciwch yma
Bu tair aelod i gystadlu yn y Ffair Aeaf rhithiol sef Kathleen Davies ,Buddug Parry a Lisa Jones.Daeth Lisa Jones yn fuddugol yn y gystadleuaeth Gosod Blodau. Llongyfarchiadau mawr iddi.
Ein gweithgaredd mis Rhagfyr oedd llenwi a rhannu basged Codi Calon llawn nwyddau cartref ac eraill ar gyfer pob aelod. Gweler llun yr atodiad . Dosbarthwyd y basgedi gan y pwyllgor ac roedd hyn yn gyfle i allu gynnal sgwrs tu allan gyda’n holl aelodau i’w sicrhau ein bod yn meddwl am ein gilydd dros y cyfnod yma yn enwedig gan nad ydym yn gallu cyfarfod i gael cinio Nadfolig fel yn arferol
Gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda ichi
Meri (ar ran Cangen MYW Y Bala)
Rhanbarth Meirionnydd
Man Cyfarfod: Canolfan Bro Tegid
7.15 Nos Iau olaf y mis
2019
Medi 26 - Cyfarfod agoriadol gyda Arfon a Lleucu Williams
Hydref 24 - "Merched" Gwaith a hamdden
Tachwedd 28 - Cinio Nadolig yn "Plas yn Dre" - Gwraig wadd - Meirwen Lloyd
2020
Ionawr 30 - Crefftau gyda Mari Gwent
Chwefror 27 - Dathlu Gŵyl Ddewi yng nghwmni Meilir Williams
Mawrth 26 - Ffion Hughes - Cyfoeth Naturiol Cymru
Ebrill 30 - Coginio gyda Wendy Jones, Brynllech
Mai 21 - Cyfarfod Blynyddol
Mehefin 25 - Gwibdaith
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




