
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Merched y Wawr, Talwrn 2009 -2015
Rydym yn dal i gyfarfod i fwynhau pob math o weithgareddau a thripiau. Bu sawl tro ar fyd ers 2009 ac fe gollwyd nifer o aelodau. Symudodd eraill ond wrth lwc daeth aelodau newydd atom i fwynhau’r gwmnïaeth. Mae’n dwy aelod hynaf dros 90 ond mae’r ddwy yn heini ac yn ifanc a hwyliog iawn eu hysbryd.
Rwy’n siŵr mai ni yw’r unig gangen yng Nghymru i fedru dweud bod dwy o’n haelodau wedi ennill Gwobr Tir na n-Og – Mair Wynn Hughes wedi ei hennill 4 gwaith i gyd a Bethan Wyn Jones wedi ei hennill am y tro cyntaf llynedd. Mae Mair Wynn Hughes wedi ennill Tlws Mary Vaughan Jones hefyd. Cawsom noson hyfryd ym mis Chwefror yng nghwmni Mair pan fu’n bwrw golwg dros 50 mlynedd o sgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc – 99 o gyfrolau i gyd – hyd yn hyn!
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Talwrn ers Talwm
Dathlu’r Aur – Bag i Bawb
Cangen Talwrn 1975 hyd heddiw
Rhanbarth Môn
Man Cyfarfod: Neuadd y Pentref
7.00 3ydd Nos Fercher y mis
2019
Medi 18 - Pethau Gwerthfawr - Simon Bower
Hydref 16 - Gwaith Gorwel - Llangefni
Tachwedd 20 - Y Gair a'r Gân - Mair Carrington Roberts
Rhagfyr - Cinio Nadolig
2020
Ionawr 15 - Noson Gartrefol
Chwefror 19 - Gwaith llyfrgellydd - Bethan Hughes Jones
Mawrth 18 - Dathlu Gŵyl Dewi
Ebrill 22 - Noson o gerddoriaeth - Nia Efans
Mai 19 - Garddio - Noel Thomas
Mehefin - Te Prynhawn
Hoffech chi ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




