Llun y Dydd a Hoff eitem crefft – 21/1
Llun y Dydd
Pier Llandudno yw yr hira yng Nghymru, agorwyd yn 1878 ar ol cymryd 2 flynedd iw adeiladu. Maer golygfeydd yn arbennig, enwedig or “Happy Valley” lle tynnwyd y llun yma.
Tua 30 o flynyddoedd yn ol, roeddwn yn mynd i Ynys Manaw yn reit amal gyda ffrindiau or pier, siwrna neis iawn pan oedd y mor yn dawel.
Mae Llandudno yn dref lan mor hyfryd, gyda llawer o siopau, caffis a gwestai neis. Hefyd mae Venue Cymru sydd yn cynnal llawer o gyngherddau, operau a llawer mwy.
Maen braf cael cerdded ar hyd y promenad, cael gweld y golygfeydd godidog ar ol bore o siopa, ac wedyn cael paned mewn un or gwestai ar y ffrynt yn edrych allan am y promenad.
